Slate Works Open All Year Round    Siop a Gweithdai Llechi: Ar agor 7 DIWRNOD, Y Pasg i ddiwedd Mis Medi – 9yb hyd 5yh.
Mis Hydref hyd at gychwyn Y Pasg – Ar agor Dydd Llun i Ddydd Sadwrn 9yb hyd 5yh.
(Ar Gau –
Dydd Nadolig, Gŵyl San Steffan a Dydd Calan).

pet friendly     Croeso i gŵn ar dennyn, yn ein siop, yn y caffi ac ar ‘Taith Fawr y Llechen’.  

Cafe Open at Slate Works All Year    Mae Caffi Gerlan ar agor yn ddyddiol fel yr uchod, gyda amseroedd agor yn yr haf o 8yb hyd 5yh ac amseroedd agor y gaeaf o 10yb hyd 4yh. 

The Great Slate Tour Self Guided Tour    Mae’n rhaid i’r taith-hynandywysiedig olaf gychwyn am 3.30yh drwy’r flwyddyn.  

 

 

 

Sefydlwyd Gwaith Llechi Inigo Jones ym 1861, yn bennaf i wneud llechi ysgrifennu ar gyfer ysgolion. Pan ddisodlwyd llechi ysgrifennu gan bapur bu’n rhaid i’r cwmni ddarganfod nwyddau newydd. Dechreuodd Hugh Jones, y perchennog ar y pryd, gynhyrchu paneli trydan mewn llechen. Bu’r rhain yn hynod o boblogaidd ac ehangodd y cwmni’n gyflym gan ddefnyddio llechi o bob rhan o Ogledd Cymru.

Roedd y gwaith o osod haen o enamel ar y llechen yn broses hirfaith a llafurus gan fod yn rhaid crasu’r llechen mewn odyn am fwy na 48 awr. Er hyn, cynhyrchwyd miloedd o baneli trydan o lechen ar safle Tudor Slate Works Inigo Jones. Roedd y gwaith yn gyfrifol am gyflenwi paneli ar gyfer llongau moethus enwoca’r byd: Y Queen Mary, Y Mauritania a’r Queen Elizabeth. Mae’n dal yn bosibl gweld paneli llechen gwreiddiol y Queen Mary yn Long Beach, Califfornia, lle mae’r llong bellach yn atyniad i ymwelwyr.

Dros amser daeth defnyddiau mwy modern, rhatach i’r amlwg i greu paneli trydan, ac felly arallgyfeiriodd y cwmni unwaith eto, y tro hyn i gynhyrchu lleoedd tân o lechen. Roedd gan y rhan fwyaf o’r rhain haen o enamel ac roedd sawl un hefyd yn cynnwys golygfeydd lleol wedi eu peintio â llaw. Ar hyn o bryd mae lle tân gwreiddiol a gynhyrchwyd ar ddiwedd y 19eg ganrif yn cael ei arddangos fel rhan o daith hunandywysedig y cwmni.

Dros y blynyddoedd mae’r cwmni wedi cyflenwi cofebion llechen ac mae’n parhau i wneud hynny. Mae technoleg wedi datblygu bellach gan alluogi’r cwmni i ysgythru llythrennedd a lluniau gyda pheiriant naddu arbennig neu eu chwythellu â thywod ac mae hyn yn llawer cynt na’r dull traddodiadol o dorri’r llythrennau â llaw.

Yn fwy diweddar mae’r cwmni wedi bod yn cyflenwi mwy o nwyddau llechi ar gyfer y cartref, yn cynnwys lloriau, topiau gwaith cegin ac aelwydydd. Mae crefftau llechen hefyd wedi bod yn boblogaidd ar gyfer y cartref, ac mae’r rhain yn cynnwys pethau fel placiau wal, clociau, lampau, rheseli dal gwin, matiau bwyta a drychau. Eitem diweddaraf y cwmni yw seinyddion llechen a phlinth llechen, cynnyrch sydd wedi bod yn boblogaidd iawn, a gellir eu harchebu’n arbennig i gyd-fynd ag unrhyw fath o seinydd gan wella ansawdd y sain yn aruthrol.

Mae etifeddiaeth y ddiwydiant llechi yn hawdd ei ddarganfod ac mae’r diwydiant heddiw yn fyw ac yn iach.  Mae Gwaith Llechi Inigo Jones yn falch i rannu hanes y treftadaeth rhyfeddol yma – treftadaeth sydd werth ei hamddiffyn. Darganfyddwch mwy am Enwebiad Safle Treftadadaeth y Byd UNESCO yma.

 

Verified by MonsterInsights