Mae Llechen wedi cael ei weithio a’i siapio ar safle Gwaith Llechi Inigo Jones ers 1861. Y cwmni wedi ei sefydlu yn wreiddiol i wneuthuriad Llechi Ysgrifennu ysgolion y wlad.  Yn hwyrach yn ystod y 1980’au, gofyn i ymweld a’r gweithdai byddai ymwelwyr, a cael dysgu mwy am y diwydiant mawreddog yma yng Ngogledd Cymru, a sut caiff y cynnyrch yn Inigo Jones ei greu.  Byth ers hyny, mae Gwaith Llechi Inigo Jones wedi cynnig taith hynan dywys o amgylch y safle.

 

Cynnigiai Taith Fawr y Llechen y cyfle perffaith a llawn hwyl i ddysgu mwy am ddiwydiant llechi Gogledd Cymru.

 

   Cychwynnwch eich taith gyda ffilm addysgiadol yn adrodd ychydig o hanes y Lechen Cymraeg.  Cewch weld y graig amrwd yn cael ei chwythu o’r mynydd, a’i daith ymlaen i ganol ein bywydau pob dydd.

    Yn dilyn y ffilm, cewch eich tywys o amgylch arddangosfeydd daeareg a hanesyddol gan ddyfais sain bersonol.  Wrth ymdeithio’r safle, cewch gyfle i brofi ysgythru llechen a chaligraffeg, gan greu cofrodd unigryw i fynd adref gyda chi!

  Mae’r daith yn parhau ar eich cyflymder eich hunain drwy’r gweithdai gwreiddiol, lle cewch weld y peiriannau a chrefftwyr wrth eu gwaith.

The Great Slate Tour - Self Guided Tour of the Welsh Slate Workshops    Mae sylwebaeth y daith ar gael drwy Ffrangeg, Almaeneg, Sbaeneg, Tsieineaidd neu Siapaneg ar gyfer ymwelwyr dros dwr, yn o gystal ag yn Gymraeg neu Saesneg.  

    Caiff ymwelwyr ieuengach y cyfle i gwblhau Cwis yn ystod eu hymweliad i geisio ennill gwobr llechen eu hunain!

    Wedi eu crefftio ar y safle mae nwyddau llechen ar gael i’w prynu yn ein siop, ynghyd a chynnyrch Cymraeg a Cheltaidd eraill.

Cafe Open at Slate Works All Year    Mae ein caffi, (bellach o dan ofal cigydd lleol, sydd hefyd wedi agor siop fferm a chigydd gyferbyn y caffi), ar agor yn ddyddiol drwy’r flwyddyn i weini ein hymwelwyr.

Dog friendly, including the Great Slate Tour and Cafe.    Mae croeso hefyd i’n ffrindiau ffyddlon am ddim drwy’r safle.

Amount of Time Tour takes: 1 - 1.5 hours   Mae’r daith yn cymryd hyd at 1 awr i 1.5 awr.

 

 

Cliciwch yma am fanylion ein lleoliad a sut i’n darganfod

Bydd Teithiau yn cychwyn am 9yb bob chwarter awr hyd 3.30yh (taith olaf y dydd) Dydd Llun i Ddydd Sadwrn yn ystod y Gaeaf a bob diwrnod yn ystod tymor yr haf. 
I sicrhau amser penodol, argymellwn eich bod yn archebu lle ymlaen llaw. Bydd rhaid gwneud taliad wrth drefnu amser o flaen llaw.

Gofynnwn i chi gyrraedd 10 munud cyn bydd eich taith yn cychwyn.

Mae mynediad i’r Siop am ddim.  Rydym ar gau Dydd Nadolig, Gŵyl San Steffan a Dydd Calan.

 

   

Verified by MonsterInsights