! Gwybodaeth bwysig ynglŷn â Rheolau Covid-19 !
Oherwydd rheolau rhwystro Covid-19, mae’r siop yn Y Groeslon nawr Ar Gau hyd 29ain o Ionawr 2021.
Mae’r wefan ar Agor i dderbyn archebion ac mae ein gweithdy yn gweithio o dan gyfyngiadau;
nodwch, mae posib bydd oedi yn eich archeb yn cael ei ddanfon.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau, e-bostiwch slate@inigojones.co.uk ac fe ddown yn ôl atoch cyn gynted â phosib.
Gweithgynhyrchu eitemau o lechen ers 1861.
Cynhyrchai’r Cwmni ystod eang o eitemau llechen wedi eu gwneuthuriad o lechen 500 miliwn blwydd oed.
Dewch i Ymweld!
Mwynhewch ddiwrnod allan yn atyniad Gwaith Llechi Inigo Jones a mentrwch ar daith hynan-dywysiedig sydd hefyd yn cynnwys cyflwyniad ffilm a sylwebaeth ddiddorol ar seinydd personol. Ar y daith mae arddangosfeydd daearegol, hanesyddol, caligraffeg ac ysgythru carreg, yn esbonio sut mae’r deunydd 500 miliwn blwydd oed yma yn cael ei gloddio, ei grefftio a’i farchnata o amgylch y Byd. I ddiddanu ymwelwyr ifanc, mae cwis hefyd ar gael gyda’r cyfle i ennill gwobr llechen arbennig!
Mae siop Gwaith Llechi Inigo Jones yn arddangos ystod eang o gynnyrch o ansawdd wedi eu gwneuthuriad o lechen, ynghyd a cynnyrch Celtaidd a Chymraeg eraill. Mae Caffi ar y safle hefyd, sydd ar agor drwy’r flwyddyn.
Sefydlwyd y Gwaith Llechi ym 1861 i wneuthuriadl llechi ysgrifennu ysgolion y cyfnod. Heddiw mae’r cwmni yn gwneuthuriad eitemau pensaerniol, cofeb, crefftau ac eitemau o Lechen Cymraeg i’r ardd. Mae’r safle wedi ei leoli’n gyfleus ger Caernarfon ac Eryri.
Ymunwch ein cylchlythyr!