Ar Agor Awst 3ydd 2020 i weini bwyd tu mewn – Siop Fferm Gerlan Ar Agor
Bellach o dan ofal cigydd lleol o Rosgadfan, Dafydd Jones, mae Caffi Gerlan ar agor Dydd Llun i Ddydd Sadwrn, 8yb hyd 5yh yn ystod yr haf & 10yb hyd 4yh yn ystod y gaeaf. Mae bwydlen newydd ar gael hefo bwydydd poeth ac oer ar gael drwy’r dydd.
Ynghyd a’r caffi, mae siop fferm a chigydd wrth yml, yn gwerthu cig o’r fferm.
I gadw bwrdd neu i wneud unrhyw ymholiadau pellach, galwch y caffi ar 01286 831188.