Earlier this month, Inigo Jones Slate Works; who are celebrating their 160th anniversary of being in business, completed a substantial public art project at Allt Ddu, Dinorwig.

Allt Ddu at Dinorwig today is a favored gateway of many into the mighty Dinorwig Quarry, where panoramic views and industrial history can be found around every corner.  The site of Allt Ddu is rich in history dating back three centuries, yet relatively recent landscaping conducted has distanced the   area’s immediate connection to it’s past.

The project sought to reflect the area’s historical importance within the Dinorwig Quarry narrative, and to re-engage local communities with their heritage. The local ‘Lle-Chi’ group were also keen that the work completed would be functional. This Brief led Inigo Jones Slate Works to design and manufacture two benches of local slate, styled as a quarry wagon unique to Dinorwig Quarry; the ‘Car Cyrn’ as they would have originally been called.

This design allowed space for several individuals to rest or prepare for their journey ahead whilst taking in the landscape around them. The benches also feature a back rest at one end, as raised bars standing tall on the quarry wagons would have aided the safe transfer of slate down steep inclines.  Each back rest or panel is engraved with intriguing details guiding your interest towards personal perspectives of once quarrying families. The first, features quotations by local residents, narrating their feelings and recollections about the life of a quarryman. The second features original images drawn by the quarrymen and replicated to indicate the pride they had in their community.

As part of Wales Slate’s bid to gain World Heritage status for the Slate Landscape of North West Wales, projects in the community, working within educational settings, engaging and escorting the various slate communities along the journey, has been key to the bid’s success in gaining the UNESCO status. This status should greatly boost the profile and importance of Welsh Slate in Gwynedd, historically, culturally and economically; creating new opportunities in the tourism sector and beyond within the region.

The team at Inigo Jones Slate Works have thoroughly enjoyed working on this unique project and would like to thank Lle-Chi Deiniolen/Dinorwig group along with Wales Slate and the aid of funding by the National Lottery Heritage Fund, for this fantastic opportunity to showcase our age-old slate working skills, and Padarn Country Park for their cooperation in arranging the groundworks to showcase the benches at their best.

 

Yn fuan mis Hydref eleni, cwblhawyd gwaith celf gyhoeddus yn yr Allt Ddu, Dinorwig gan Waith Llechi Inigo Jones; sydd yn dathlu 160 mlynedd ers eu sefydliad eleni.

Heddiw mae’r Allt Ddu yn bwynt cychwyn taith drwy Chwarel Dinorwig i nifer. Chwarel fawreddog sydd â golygfeydd godidog a hanes diwydiannol o amgylch pob cornel. Mae safle’r Allt Ddu yn gyfoethog mewn hanes sydd yn dyddio yn ôl tair canrif, er bod gwaith tirlunio cymharol ddiweddar wedi datgysylltu’r safle a’i hanes yn uniongyrchol.

Bwriad y prosiect oedd dangos pwysigrwydd y safle yn hanesyddol o fewn stori ehangach ardal Chwarel Dinorwig ac i ailgysylltu’r gymuned leol a’i hetifeddiaeth.  Dymunodd Grŵp Lle-Chi Deiniolen/ Dinorwig bod y gwaith hefyd yn ddefnyddiol.  Arweiniodd hyn i Waith Llechi Inigo Jones ddylunio a gwneuthuriad dwy fainc o lechen leol yn dynwared ‘Car Cyrn’; wagen i gario llechi a oedd yn unigryw i Chwarel Dinorwig.

Mae’r dyluniad yma yn galluogi sawl person i eistedd ac ymlacio neu baratoi ar gyfer y daith o’u blaen, wrth iddynt ymdrochi yn y tirlun trawiadol.  Mae nodweddion y ‘Cyrn’ o’r Car gwreiddiol a fyddai wedi arbed llechi ddisgyn ar eu taith i lawr sawl inclein serth y chwarel, yn cael eu hynganu fel cefn ar un pen y meinciau. Mae’r cefnau yma wedi cael eu hysgythru a chofnodion personol. Mae’r cyntaf yn adrodd teimladau ac atgofion personol aelodau’r ardal o fywyd yn ystod oes pryd roedd y Chwarel ar waith.  Mae’r ail yn cofnodi esiamplau o ddelweddau gwreiddiol arlunwyd gan y chwarelwyr, i ddangos y balchder oedd ganddynt yn eu cynefin.  Mae’r nodweddion yma hefo’i gilydd yn personoli’r gwaith ac yn rhoi cipolwg i ymwelwyr o bwysigrwydd yr ardal.     

Fel rhan o gais Llechi Cymru i ennill statws Safle Treftadaeth y Byd yn ardal Chwarelyddol Gogledd Orllewin Cymru, bu prosiectau cymunedol, gweithio o fewn sefydliadau addysg, a hebrwng cymunedau lleol ar hyd y daith, wedi bod yn elfennol i sicrhau llwyddiant y cais am statws UNESCO. Y gobaith nawr yw bod y statws yma am godi ymwybyddiaeth a thaflu goleuni newydd ar hanes y Llechen Gymraeg yng Ngwynedd, y diwylliant ac economi lleol, gan sicrhau cyfleoedd newydd o fewn y sector twristiaeth a thu hwnt.  

Mae’r Tîm yng Ngwaith Llechi Inigo Jones wedi mwynhau’n fawr cael y cyfle i weithio ar y prosiect unigryw yma. Dymunai ddiolch i Grŵp Lle-Chi Deiniolen/ Dinorwig ynghyd a Llechi Cymru a chymorth nawdd gan Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, am y cyfle arbennig yma i arddangos eu sgiliau hynafol o drin Llechen i gynulleidfa ehangach.  Hoffai ddiolch hefyd i Barc Gwledig Padarn am eu cydweithrediad i drefnu y gwaith daear sydd yn arddangos y meinciau ar e’u gorau.    

Verified by MonsterInsights