“Barod Amdani” yw Marc Safon swyddogol y DU i dynodi bod busnesau lletygarwch a thwristiaeth wedi gweithio yn galed i ddilyn canllawiau COVID-19 y llywodraeth a diwydiant ac sydd hefo prosesau mewn lle i gynnal glendid a chymorthwyo ymbellhau cymdeithasol.

Marc Barod
We're Good To Go - Covid- 19 Secure

 Mae Llechen wedi cael ei weithio a’i siapio ar safle Gwaith Llechi Inigo Jones ers 1861. Y cwmni wedi ei sefydlu yn wreiddiol i wneuthuriad Llechi Ysgrifennu ysgolion y wlad.  Yn hwyrach yn ystod y 1980’au, gofyn i ymweld a’r gweithdai byddai ymwelwyr, a cael dysgu mwy am y diwydiant mawreddog yma yng Ngogledd Cymru, a sut caiff y cynnyrch yn Inigo Jones ei greu.  Byth ers hyny, mae Gwaith Llechi Inigo Jones wedi cynnig taith hynan dywys o amgylch y safle.

 

Cynnigiai Taith Fawr y Llechen y cyfle perffaith a llawn hwyl i ddysgu mwy am ddiwydiant llechi Gogledd Cymru.

Face covering must be worn in all indoor areas

Mae’n rhaid gwisgo gorchudd wyneb dan do ar bob adeg.

 

   Cychwynnwch eich taith gyda ffilm addysgiadol yn adrodd ychydig o hanes y Lechen Cymraeg.  Cewch weld y graig amrwd yn cael ei chwythu o’r mynydd, a’i daith ymlaen i ganol ein bywydau pob dydd.

    Yn dilyn y ffilm, cewch eich tywys o amgylch arddangosfeydd daeareg a hanesyddol gan ddyfais sain bersonol.  Wrth ymdeithio’r safle, cewch gyfle i brofi ysgythru llechen a chaligraffeg, gan greu cofrodd unigryw i fynd adref gyda chi!

  Mae’r daith yn parhau ar eich cyflymder eich hunain drwy’r gweithdai gwreiddiol, lle cewch weld y peiriannau a chrefftwyr wrth eu gwaith.

The Great Slate Tour - Self Guided Tour of the Welsh Slate Workshops    Mae sylwebaeth y daith ar gael drwy Ffrangeg, Almaeneg, Sbaeneg, Tsieineaidd neu Siapaneg ar gyfer ymwelwyr dros dwr, yn o gystal ag yn Gymraeg neu Saesneg.  

    Caiff ymwelwyr ieuengach y cyfle i gwblhau Cwis yn ystod eu hymweliad i geisio ennill gwobr llechen eu hunain!

    Wedi eu crefftio ar y safle mae nwyddau llechen ar gael i’w prynu yn ein siop, ynghyd a chynnyrch Cymraeg a Cheltaidd eraill.

Cafe Open at Slate Works All Year    Mae ein caffi, (bellach o dan ofal cigydd lleol, sydd hefyd wedi agor siop fferm a chigydd gyferbyn y caffi), ar agor yn ddyddiol drwy’r flwyddyn i weini ein hymwelwyr.

Dog friendly, including the Great Slate Tour and Cafe.    Mae croeso hefyd i’n ffrindiau ffyddlon am ddim drwy’r safle.

Amount of Time Tour takes: 1 - 1.5 hours   Mae’r daith yn cymryd hyd at 1 awr i 1.5 awr.

 

 

Cliciwch yma am fanylion ein lleoliad a sut i’n darganfod

Bydd Teithiau yn cychwyn am 9yb bob chwarter awr hyd 3.30yh (taith olaf y dydd) Dydd Llun i Ddydd Sadwrn yn ystod y Gaeaf a bob diwrnod yn ystod tymor yr haf. 
I sicrhau amser penodol, argymellwn eich bod yn archebu lle ymlaen llaw. Bydd rhaid gwneud taliad wrth drefnu amser o flaen llaw.

Gofynnwn i chi gyrraedd 10 munud cyn bydd eich taith yn cychwyn.

Mae mynediad i’r Siop am ddim.  Rydym ar gau Dydd Nadolig, Gŵyl San Steffan a Dydd Calan.

 

   

Verified by MonsterInsights