Ymweliad gan Ysgolion/Clybiau a Grwpiau

Sefydlwyd Gwaith Llechi Inigo Jones ym 1861 yn bennaf i wneuthuriad Llechi Ysgrifennu i Ysgolion.  Heddiw mae’r cwmni yn defnyddio’r un defnydd, sef Llechen Gymraeg i wneud cynnyrch pensaernïol, cofeb a chrefftau llai. 

Mae’r Gwaith Llechi bellach yn atyniad ymwelwyr sydd yn cynnig i’r cyhoedd gael gweld sut mae’r diwydiant yn gweithio a sut mae cynnyrch o’r fath e.e. sills, copings, steps ac ymylon gwaith cegin yn cael eu cynhyrchu.  Caiff ymwelwyr hefyd ddysgu sut mae technegau modern wedi newid sut mae rhai eitemau fel Enwau Tai a Platiau yn cael eu gwneuthuro. 

 

   Cymerai Taith Fawr y Llechen (y daith hunan dywys) oddeutu Un awr i’w gwblhau ac mae’n cynnwys ffilm addysgiadol ar gychwyn y daith.

The Great Slate Tour - Self Guided Tour of the Welsh Slate Workshops    Cewch eich hebrwng o amgylch y safle gyda sylwebaeth a’r seinydd bersonol, sy’n caniatau i chi symud o un arddangosfa i’r llall yn eich amser eich hyn.

    I’w gweld, mae arddangosfeydd Daeareg, Hanes, Caligraffeg ac Ysgythru.  Arddangosfeudd sydd yn addysgiadol ac yn hwyl.  Mae yna gyfle hefyd i chi fod yn greadigol a rhoi cynnig ar caligraffeg ac ysgythru darn o lechen fydd yn cael ei gyflwyno i chi ar gychwyn eich taith. Mae croeso i chi gadw’r darn yma o lechen fel cofrodd i gofio!

    Mae Cwis hefyd ar gael i blant, gyda’r cyfle i ennill gwobr llechen.

 

GWYBODAETH I GRŴP – CYNLLUNIO EICH YMWELIAD

Llenwch y daflen cofnodi ar waelod y dudalen yma.

 

PRISIAU GRŴP

Mae’r prisiau yma i grŵp o 10+ sydd wedi talu o flaen llaw:-

2021 – Teithiau wedi eu trefnu o flaen llaw yn unig – Dydd Llun i Ddydd Gwener 
Oedolion £5.20
Plant (5 i 16 oed) £4.80
Consesiwn  £4.80

 

Gwybodaeth Gyffredinol 

 

Mae digonedd o leoedd Parcio i fysiau AM DDIM. Gofynnwn i chi arwyddo eich arweinydd i mewn cyn gynted â phosib wedi i chi gyrraedd.

 

Toiledau
Lleolir y toiledau merched, dynion ac anabl wrth ymyl y siop yn annibynnol o’r prif adeilad.

Iechyd a Diogelwch 
I wneud ymweliad pawb yn un hwylus, gofynnwn i chi bod ambell reol yn cael ei barchu:
Gofynnir bod plant a phobl ifanc 14oed ac ieuengach o dan ofal oedolyn drwy’r amser.
Nid yw rhedeg yn cael ei ganiatáu yn y gweithdai, a gofynnir i chi aros ar y llwybr a ddynodwyd.
Peidiwch â chyffwrdd peiriannau yn y gweithdai.

Mewn Argyfwng 

Tân
Os bydd Tân, seiniai larwm i’n rhybuddio.  Pan seiniai’r larwm, dylai eich grŵp adael yr adeilad gan ddilyn yr arwyddion i’r allanfa agosaf.  Cewch gyfarwyddiadau gan ein staff.

Cymorth Cyntaf
Os oes angen cymorth cyntaf, cysylltwch ag aelod o staff a fydd yn gallu cymryd y camau angenrheidiol.

Unrhyw Argyfwng Arall
Os bydd unrhyw argyfwng arall, cysylltwch ag aelod o staff.

Gwybodaeth Asesiad Risg

Gofynion Cyfreithiol
Health and Safety at Work Act 1974 – This is the principle act that applies to the company and is to ensure that all workers and visitors are protected by law.

Under the HASWA Act 1974 there are many specific regulations that relate to work activities on site. The principle requirement being to undertake risk assessments, to identify hazards, and assess the risk under the Management of Health and Safety at Work Regulations Act 1999. The company regularly carries out risk assessments for both its workers and for visitors as we are a tourist attraction.

Diogelwch Bwyd/ Hylendid
Our cafe operates in accordance with the Food Safety Act 1990 and is inspected by the local Environmental Health Department.

Yswiriant
The company has Employer’s Liability and Public Liability. The Employer’s Liability Certificate is displayed by law. The limit of Indemnity is £10,000,000.
The company’s limit of Indemnity in respect of product and public liability is £2,000,000. The insurance is covered by Royal and Sun Alliance.
A copy of certificate of insurance is available on request.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu gofid ynglŷn ag unrhyw beth uwchben, allwch gysylltu â John Lloyd – Cyfarwyddwr

 

Os hoffwch gadw lle o flaen llaw i grŵp ar ein taith hunan dywys, llenwch ein taflen islaw.   

Er mwyn bod yn gymwys ar gyfer gostyngiad pris, mae’n rhaid i ‘ch taliad gael ei yrru o flaen llaw i:-

Inigo Jones & Co Ltd, Tudor Slate Works, Y Groeslon, Caernarfon, Gwynedd, LL54 7UE.

Neu Galwch ni ar 01286 830242 i wneud taliad dros y ffôn.

 

    Verified by MonsterInsights