YNGLŶN Â NI

Carving the slate

Sefydlwyd Gwaith Llechi Inigo Jones ym 1861, yn bennaf i wneud llechi ysgrifennu ar gyfer ysgolion. Pan ddisodlwyd llechi ysgrifennu gan bapur bu’n rhaid i’r cwmni ddarganfod nwyddau newydd. Dechreuodd Hugh Jones, y perchennog ar y pryd, gynhyrchu paneli trydan mewn llechen. Bu’r rhain yn hynod o boblogaidd ac ehangodd y cwmni’n gyflym gan ddefnyddio llechi o bob rhan o Ogledd Cymru.

Roedd y gwaith o osod haen o enamel ar y llechen yn broses hirfaith a llafurus gan fod yn rhaid crasu’r llechen mewn odyn am fwy na 48 awr. Cynhyrchwyd miloedd o baneli trydan o lechen ar safle Tudor Slate Works Inigo Jones. Roedd y gwaith yn gyfrifol am gyflenwi paneli ar gyfer llongau moethus enwoca’r byd : y Queen Mary, y Mauritania a’r Queen Elizabeth. Mae’n dal yn bosibl gweld paneli llechen gwreiddiol y Queen Mary yn Long Beach, Califfornia, lle mae’r llong, erbyn heddiw, yn atyniad i dwristiaid.

Wrth i gynhyrchion eraill rhatach gael eu defnyddio i wneud paneli trydan arallgyfeiriodd y cwmni, gan ddechrau cynhyrchu lleoedd tân o lechen. Roedd gan y rhan fwyaf o’r rhain haen o enamel ac roedd sawl un hefyd yn cynnwys golygfeydd lleol wedi eu peintio â llaw. Ar hyn o bryd mae lle tân gwreiddiol a gynhyrchwyd ar ddiwedd y 19eg ganrif yn cael ei arddangos fel rhan o daith hunandywysedig y cwmni.

Dros y blynyddoedd mae’r cwmni wedi cyflenwi cofebion llechi ac mae’n parhau i wneud hynny. Serch hynny, mae technoleg wedi datblygu, ac erbyn hyn mae llythrennau un ai’n cael eu torri â pheiriant neu eu chwythellu â thywod ac mae hyn yn llawer cynt na’r dull traddodiadol o dorri’r llythrennau â llaw.

Yn fwy diweddar mae’r cwmni wedi bod yn cyflenwi mwy o nwyddau llechi ar gyfer y cartref, yn cynnwys lloriau, topiau gwaith cegin ac aelwydydd. Mae crefftau llechen hefyd wedi bod yn boblogaidd ar gyfer y cartref, ac mae’r rhain yn cynnwys pethau fel placiau wal, clociau, lampau, rheseli dal gwin, matiau bwyta a drychau. Eitem fwyaf newydd y cwmni yw seinyddion llechen a standiau dal seinyddion llechen ac mae’r olaf yn sicr wedi bod yn hynod o boblogaidd a gellir eu harchebu’n arbennig, i gyd-fynd ag unrhyw fath o seinydd a gwella ansawdd y sain yn aruthrol.

Inigo Jones & Co. Ltd, Tudor Slate Works, Y Groeslon, Caernarfon, Gwynedd, LL54 7UE
Ffôn: 01286 830242 Ffacs: 01286 831247 E-bost: info@inigojones.co.uk


Cysylltu â Ni

Ffôn: 01286 830242
Ffacs: 01286 831247
E-bost: info@inigojones.co.uk



English / Cymraeg



Chwilio am Nwyddau


100% Diogel




With Secure Trading


Ymuno â’n Rhestr Bostio

Nodwch eich Enw
Nodwch eich e-bost